Working to make government more effective

Comment

Rhaid i’r gwasanaeth sifil yng Nghymru fod yn barod ar gyfer newid sylweddol ar ôl etholiadau mis Mai

Mae’r posibilrwydd o lywodraeth newydd yn galw am ffyrdd mwy hyblyg o feddwl a gweithio

Welsh flag

Gall etholiad Mai orfodi gwasanaeth sifil Cymru i addasu i lywodraeth gyfan newydd ar ôl degawdau o weithio gyda gweinidogion y Blaid Lafur – her na ellir ei thanbrisio, meddai Hannah Keenan.

Bydd etholiadau buan seneddau Cymru a’r Alban yn dod â gweinidogion newydd i’r ddwy lywodraeth ddatganoledig. Dylai gweinidogion posib fod yn gwneud eu paratoadau yn barod, ond hefyd dylai’r gwasanaeth sifil – ac mae’n debygol mai Cymru sy’n gwynebu’r newid, a’r her, mwyaf.

Yr SNP sy’n arwain yr arolygon barn yn yr Alban ac yn edrych ar y trywydd iawn i ddychwelyd i’r llywodraeth mewn rhyw ffurf ar ôl etholiad Mai. Ond gyda Plaid Cymru yn arwain yr arolygon barn yng Nghymru a Reform UK yn ail, gallai Llafur fod – os mae’r arolygon yn gywir – ar y ffodd i golli rheolaeth o’r Senedd am y tro cyntaf ers datganoli.

Ar ôl degawdau o gefnogi gweinidogion Llafur yn bennaf – ac wrth gwrs yn parhau i wneud tra byddant yn y swydd – sut ddylai gwasanaeth sifil llywodraeth Cymru fod yn meddwl am y newidiadau posib sydd o’u blaenau?

Mae angen i weision sifil Cymru ddod nôl i'r arfer o lunio polisi

Mae gweision sifil llywodraeth Cymru wedi cefnogi gweinidogion Llafur sydd newydd eu hapwyntio, yn ogystal â phartneriaid cymblaid Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn y gorffennol. Ond ni ellir tanbrisio graddfa a natur yr her o gefnogi llywodraeth hollol newydd, gyda set wahanol o gredoau, blaenoriaethau a dulliau o weithio.

Mae yna wersi clir i’w dysgu o brofiad gwasanaeth sifil y DU. Dim ond pum mis ar ôl i brif weinidog Keir Starmer anfon neges bersonol o gefnogaeth i weision sifil wrth iddo gymryd y swydd, buodd yn eu cyhuddo o fod yn rhy gyfforddus mewn “badd lluctwym o  ddirywiad”. Roedd gormod yn y gwasanaeth sifil wedi methu â deall graddfa’r newidiadau   yr oedd y blaid newydd yn ceisio gyrru, ac o ganlyniad, fe gollwyd cyfle cychwynnol i ddangos i weinidogion eu bod yn barod i gefnogi.

Ni all gweision sifil ddiffinio amcanion i’w gweinidogion newydd, a bydd rhaid i wleidyddion gael blaenoriaethau a gwleidyddiaeth glir i’w cyflwyno i’w gweision sifil. Ond mae yna wahaniaeth rhwng gweision sifil yn eistedd nôl ac aros i weinidogion newydd i roi cyfarwyddiadau penodol, a phwyso mewn i egluro’r amcan yn hyderus ac yn greadigol, a datgan yr opsiynau ar gyfer ei gyrraedd.

Gall gwasanaeth sifil llywodraeth Cymru – ac yn benodol y timau polisi canolog sy’n gweithio’n agos gyda gweinidogion – ddechrau ymarfer y sgiliau yna nawr. Dylai Andrew Goodall, arweinydd y gwasanaeth sifil yng Nghymru, a’r arweinyddion o’i gwmpas, adeiladu diwylliant o feddwl am bolisi mewn ffyrdd creadigol a gwreiddiol. Maeannog trafodaethau agored a dulliau newydd o ddatrys problemau yn gwneud gweithredwyr polisi yn fwy hyblyg, fel unigolion ac fel rhan o dîm. Am rhy hir yng ngwasanaeth sifil y DU, mae’r hyblygrwydd a chreadigrwydd yna wedi bod yn absennol, ac mewn ambell achos wedi’u colli fel sgil: effaith Brexit, covid, a’r cyffro gwleidyddol a daeth o ganlyniad.

Mae cyfradd gadael y gwasanaeth sifil yn is yng Nghymru nag yng ngweddill y DU – tra bod hwn yn dda ar gyfer cof sefydliadol ac arbenigedd, y cyferbyn yw ei fod yn gallu gwneud e’n anoddach i weld ffyrdd newydd o weithio ac o feddwl am bolisi. Mae angen i wasanaeth sifil Cymru adeiladu’r sgiliau a hyblygrwydd yna nawr – bydd hyn o fudd i unrhyw lywodraeth.

Dylai’r gwasanaeth sifil fod yn greadigol yn y modd mae’n gweithio, yn ogystal â’r ffordd mae’n meddwl

Yn ogystal â gwleidyddiaeth a blaenoriaethau newydd, bydd rhaid i’r gwasanaeth sifil ymdopi â newidiadau llawer yn fwy nag arfer mewn ffyrdd o weithio.

Bydd y cysylltiad yn ôl i’r gwasanaeth sifil yn Llundain yn bwysicach fyth, yn enwedig os bydd Plaid Cymru yn ennill mwyafrif. Tra mai prif rôl Andrew Goodall, pennaeth gwasanaeth sifil Cymru, yw cefnogi llywodraeth Cymru, mae hefyd yn rhan o rwydwaith traws-DU o ysgrifenyddion parhaol. Bydd pwysigrwydd y cysylltiad yma i Lundain – yn bennaf trwy gyfarfodydd wythnosol bore Mercher gydag ysgrifenyddion parhaol eraill – yn cynyddu pan fydd llywodraethau Cymru a’r DU dan arweiniad gwahanol bleidiau. Disgrifiodd Bob Kerslake, cyn-arweinydd gwasanaeth sifil Cymru, y cysylltiad hwn fel cymorth “enfawr mewn delio â phynciau pan bod angen cysylltu mewn i’r DU” 4 https://committees.parliament.uk/oralevidence/5253/html/ , ond bydd rhaid i Goodall a’i gydweithwyr ddangos hefyd eu bod nhw’n cefnogi’n ddilys llywodraeth sydd â blaenoriaethau gwleidyddol sy’n wahanol i rannau eraill y DU.

Efallai bydd hefyd rhaid i wasanaeth sifil Cymru gefnogi’r trafodaethau o gwmpas ffurfiant clymblaid, a’i reolaeth ar ôl ei sefydliad. Mae yna lu o wersi ar gael o glymbleidiau blaenorol Cymru, yn ogystal ag eraill yn yr Alban a’r DU.
Bydd gan weinidogion newydd farnau eu hun ar sut hoffent y system i weithio, ond mae llawer o weision sifil yn gyfarwydd â’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag gweithio’n effeithiol. Gydag wythnosau yn unig i fynd cyn diwrnod yr etholiad, dylai gwasanaeth sifil Cymru fod yn archwilio eu prosesau, cydnabod lle gallai pethau newid, a chadarnhau ei fod yn barod i weithio’n wahanol gyda grŵp o weinidogion newydd.

Mae’r her o’i flaen o bosib yn enfawr. Ond mae llawer gall gwasanaeth sifil llywodraeth Cymru ei wneud i baratoi.

Wedi ei gyfiethu gan Megan Bryer/Dan Howes

Etholiadau lleol a datganoledig 2026

Ar Ddydd Iau’r 7 o Fai bydd trigolion yr Alban, Cymru a Lloegr yn mynd i’r gorsaf bleidleisio mewn llu o etholiadau lleol a datganoledig.

Ymwelwch â’n tudalen etholiadau
Devolution graphic
Keywords
Civil servants
Publisher
Institute for Government

Related content